Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Amledd

Grŵp | Arddull: Acwstig, Roc Amgen | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2004 -

Gwefan: www.amledd.co.uk

Gwefan MySpace: www.myspace.com/amledd

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Billy Thompson a Rhian Williams o AmleddMae Amledd yn cyfuno talentau canwr/cyfansoddwraig Rhian Williams (gynt o'r band UST) a ffidlwr/cyfansoddwr Billy Thompson.

Mae'r ddau wedi bod yn cyfansoddi a recordio o amgylch dwy flynedd, ac Amledd yw canlyniad y gwaith hwn.

Mae Amledd yn cynnwys y guitarydd talentog ifanc Dave Edwards, Dave 'Taif' Ball ar y bâs heb fretiau a Steve Roberts ar y drymiau.

Mae'r ddau yn gerddorwyr proffesiynol, Dave Taif Ball wedi recordio a theithio yn eang gyda gwahanol fandiau e.e Lloyd Cole, Jools Holland, John Martyn a Barbara Thompsons Paraphernalia (lle wnaeth Billy gyfarfod Taif gyntaf). Mae Steve Roberts wedi recordio a theithio gyda'r Noddys Punture, They Walk Among Us, The Heavy Quartet ac yn rhan fwyaf o fandiau jazz Billy Thompson ar hyd y blynyddoedd.

Mae Rhian yn wreiddiol o'r Bala ac wedi bod yn cyfansoddi ers amser bellach. Mae wedi perfformio yn y gorffennol gyda Huw Symonds o Llanuwchllyn, a gynt gyda'r band Ust.

Mae caneuon Amledd i gyd yn hollol wreiddol lle mae profiadau cerddorol amryliw y grwp yn cyfuno.

Mae Billy wedi perfformio am flynyddoedd o amgylch Cymru gyda The Amigos (Gypsymania, Alma Gitana, Jazz Manouche) ac hefyd Meic Stevens (Mihangel, Ysbryd Solva), yn ogystal a nifer o ymddangosiadau eraill gyda artistiaid amrywiol Alun Tan Lan (Aderyn Papur), Mim Twm Llai (Yr Eira Mawr), Sian James (Y Ferch O Bedlam), Heather Jones, Jim Rowlands a Delwyn Sion.

Mae'r albwm yn cael ei recordio gan Thompsound Music (Ysbryd Solva gan Meic Stevens) - mae ar gael trwy Gymru yn y siopau ac hefyd o'i gwefan.

Eleni rydym yn barod wedi perfformio amryw o gigs gyda'r uchafbwynt yn y Sesiwn Fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe.

Mae Amledd yn ymfalchio i fod yn ran o draddodiad gerddorol gref yng Nghymru. Mae'r sîn roc Gymraeg ar ei anterth, ac yn datblygu yn ddyddiol gyda bandiau newydd.

Mae Amledd yn edrych ymlaen i berfformio mwy yn fyw o amgylch y wlad profiad newydd a chyffrous i gynulleidfaoedd. Mae wedi bod yn siwrne gerddorol greadigol i'r band ac maent oll yn fwy na pharod i rannu y siwrne!

Aelodau

Rhian Williams - llais
Billy Thompson - ffidl, gitâr
Dave Edwards - gitâr
Dave 'Taif' Ball - bâs
Steve Roberts - drymiau

Disgyddiaeth

Cyfnod Cyntaf - (Albwm, CD, Thompsound Music TMCD03, 01/10/2006)

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Ionawr 2007