Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Borcyn

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1993 - 1997

Gwybodaeth

Fe wnaeth Borcyn chwarae gan fwyaf yn ardaloedd Caerdydd/Abertawe rhwng '93 a '97 ond nawr mae'r aelodau wedi mynd ar drywydd eu hunain neu wedi diflasu. Mae Owen (drymiwr) nawr yn chwarae i'r band The Crocketts (ar label Virgin), Trystan nawr yn neidio clwydi ar gylch athletau colegau'r Amerig (gyda Michigan State University), Rhys yn ymddangos ar Pobol y Cwm a'r lleill dal yn y coleg.

Cyhoeddwyd un tâp yn 1995 (gyda'r enw gwreiddiol iawn o 'Borcyn'), sydd nawr yn cael ei gasau gan bob aelod o'r band am y cynhyrchiad truenus a geiriau amheus. Nid yw eu gigs mwya cofiadwy yn cael ei cofio am resymau cerddorol, ond am ddigwyddiadau oedd yn cynnwys dadleuon budr gyda bandiau eraill fel Ensyniadau a Anweledig.

Oherwydd casineb nifer o'r aelodau tuag at rhai o'i caneuon, fe roedd gigs yn aml yn cynnwys nifer o 'covers' o ganeuon y Beatles a ambell gân Borcyn wedi ei daflu mewn am hwyl. Fe roedd gan Owen y basydd dueddiad doniol i chwarae gyda un llinyn yn unig neu benderfynu beidio chwarae/beidio troi lan o gwbl. Mae'u ymddangosiadau ar deledu yn cynnwys Noc Noc a Uned 5, lle 'stumiwyd y caneuon gyda'r drymiwr yn defnyddio teganau meddal yn hytrach na ffyn, a'r gitarydd yn cyfnewid lle gyda'r drymiwr drwy'r gân. Doedd y cyfryngis uchel-ael ddim yn chwerthin.

Gan fod Owen y drymiwr nawr mewn grŵp arall, llawer mwy llwyddiannus a Trystan yn yr UDA dyw'r band heb gyfarfod gyda'i gilydd ers tua dwy flynedd. Heblaw am ambell i gêm o golf.

Aelodau

Rhys Jones - canwr
Owen Hopkin - drymiwr
Iwan Williams - gitâr
Owen Martell - gitâr fas
Trystan Bevan - gitâr / allweddellau

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2004