Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Catsgam

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1995 -

Gwybodaeth

CatsgamFfurfiwyd Catsgam yn y misoedd yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol 1995 lle'r oedd yr aelodau wedi dod ynghyd i gyfeilio i'r sioe gerdd "Ffatri Breuddwydion". Ers hynny fe fu'r grŵp yn perfformio'n rheolaidd yng nghanolfannau'r de ac yn fwy ddiweddar yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Mae arddull y grŵp yn cyfuno agweddau o gerddoriaeth gyfoes a thraddodiad gwerin er mwyn cyflwyno negeseuon cyfoes a hanesyddol. O swyn baledi serch i ganeuon protest gweidyddol miniog mae Catsgam yn llwyddo i gynnig rhywbeth at ddant pob un. Roc gwerin gyda agwedd!

Yn sgil nifer fawr o berfformiadau byw a'u hymddangosiad ar y rhaglen "Cân i Gymru 97" aethpwyd ati i recordio CD "Moscow Fach" (Fflach CD188H). Mae trac teitl y cryno ddisg yn sôn am bentref bach y Maerdy a thraddodiad cryf y Blaid Gomiwnyddol yn y pentref bach unigryw hwn.

Aelodau

Catrin Brooks - Llais
Rhys Powys - Gitâr
Rhys Harries - Llais a Gitâr
Edward H Jones - Gitâr Fas
Dyfrig Wyn Ellis - Drymiau

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mehefin 2005