Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Datblygu

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1982 - 1995

Gwefan: www.datblygu.com

Gwybodaeth

David R. EdwardsUn o fandiau mwya arloesol Cymru, a oedd yn cyfuno cerddoriaeth electronig gyda sylwadau caled, di-gyfaddawd am Gymru cyfoes. David R Edwards oedd yn sgrifennu'r geiriau (neu farddoniaeth) ac yn canu'r caneuon. Mae Dave wedi trafod nifer o bynciau cyfoes yn eu ganeuon fel cyffuriau, trais a phroblemau rhywiol.

Yn ogystal a chael peth sylw o rai mannau yn y cyfryngau Cymraeg, fe gafodd y grŵp sesiynau gan John Peel ar Radio 1 a daeth sylw cynnyddol o'r wasg Brydeinig. Mae cyfraniad y band yn un aruthrol yn y casgliad o ganeuon a cherddoriaeth boblogaidd maent wedi gadael i ni.

Aelodau

David R Edwards - llais
Pat Morgan - bas, llais, allweddellau
T. Wyn Davies - allweddellau

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2005