Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Geraint Griffiths

Canwr | Arddull: Roc, Ffwnc | Iaith: Cymraeg

Gwefan: www.geraintgriffiths.com

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Geraint GriffithsMae gan y cerddor a'r canwr Geraint Griffiths hanes hir a llewyrchus ym myd cerddoriaeth Cymraeg. Yn y 70au fe roedd yn gerddor sesiwn gyda Edward H Dafis a Hergest. Yn 1976, fe ymunodd gyda rhai cyn-aelodau o Edward H, Sidan a'r canwr Endaf Emlyn i ffurfio'r band Injaroc. Roedd y grŵp ar ben ar ôl blwyddyn ond fe recordiwyd un record hir, Halen Y Ddaear.

Wedi hynny, fe ffurfiodd Geraint y grŵp Eliffant gyda rhai cyn-aelodau o'r band roc Chwys. Fe fu Eliffant gyda'i gilydd am saith mlynedd, gyda Geraint fel prif leisydd ac yn cyfansoddi'r caneuon. Yn yr amser hynny fe recordiwyd dwy record hir, MOM a Gwin y Gwan.

Dechreuodd Geraint ar yrfa unigol yn 1984. Fe recordiodd tair record hir o'i ganeuon, sef Madras, Rebel ac Ararat, a gynhyrchwyd gan ei gydweithiwr a'i ffrind Myfyr Isaac. Roedd y rhan fwyaf o'i waith recordio, a phob un o'r recordiau uchod ar label Sain.

Geraint Griffiths mewn gigYm 1992 sefydlodd Geraint label recordio ei hunan, Diwedd Y Gwt. Y casgliad cyntaf ar y label oedd y casét Donegal , ac ym 1998 cyhoeddwyd y casgliad ar CD. Rhyddhawyd Hewl ym 1999. Cyhoeddwyd Glastir, y CD diweddaraf yn 2001.

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Ionawr 2005