Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Hitchcock

Grŵp | Iaith: Cymraeg, Saesneg | Cyfnod: 1994 - 1999

Enw(au) blaenorol: Vulpecula

Gwefan MySpace: www.myspace.com/vulpeculahitchcock

Gwybodaeth

HitchcockGrwp roc/pop/indi efo dylanwadau fel Beatles ar Stone Roses (a mwy). Wedi chwarae nifer o gigs trwy Gymru, yn cynnwys Rhyng-gol 95 a 96, Eisteddfod 94 (efo Diffiniad), 95 (efo Gorkys) a 96 (efo SFA). EP llwyddiannus wedi ryddhau Mai 96, wedi ei recordio yn Stiwdio Ofn, Llanfaelog. Ymddangosiad ar raglen I-dot ar S4C (Mawrth 10 1997) - perfformiwyd Gweledigaeth Eliffant Jones a Baglu.

Fe wnaeth y band ymddangos ar 'Garej' yn 1998 yn perfformio Cewri (fersiwn acwstig) a recordio sesiwn fyw i Radio Cymru yn y 'Steddfod. Wedi recordio sesiwn stiwdio hefyd i Radio Cymru yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda (Capten y Llong, 04 (Dim Pedwar) a Reebok Nike).

Fe ail-ffurfiwyd y band yn Ionawr 1999 o dan enw newydd Vulpecula, a fe recordiwyd CD newydd 'Wilmot Sun God' ym mis Mawrth 1999. Mae tri cân Gymraeg - 'Concrit yn y gwair', 'Gweld y Gola' a 'Trio Eto', wedi ei recordio ar gyfer sesiwn 'RAM JAM', Radio Cymru ym mis Ebrill. Y tri cân arall yw 'Been away', 'Wilmot Sun God' a 'Cinematic Darling'.

Ar ôl i'r band ddod i ben yn niwedd 1999 fe barhaodd 'Hitchcock' gyda Aled yn unig. Ffurfiwyd Evans, band Rhys, David Gwyn ac Alex, ond fe adawodd David ar ôl recordio sawl cân newydd efo'r grŵp. Fe wnaeth Martin chwarae i'w grŵp "Spoonidols" a fe ddaeth Tecwyn yn aelod o'r grŵp 48F.

Aelodau

Aled Ellis-Davies - llais
Rhys Llwyd Elis - gitâr, allweddellau, llais cefndir
David Gwyn Jones - bas
Alex Philp - drymiau

Cyn-aelodau:

Sion Llwyd Elis - drymiau (-95)
Tecwyn Lloyd Jones - gitâr, llais cefndir (-95)
Bryn Jones - trwmped (97-98)
Martin Young - gitâr (98-99)

Disgyddiaeth

EP - Vulpecula (1996) Traciau: Cewri, Baglu, No Surprise, Felly

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ionawr 2008