Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

iglw

Grŵp | Arddull: Indi, Pop | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2006 -

Gwefan: www.iglw.com

Gwefan MySpace: www.myspace.com/iglw

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Tri aelod sydd yn y band iglw, sef Lowri, Gruffydd Owen ac Aled.

Ffurfiwyd y band ychydig cyn y Nadolig 2005 pan benderfynodd Aled a Gruffydd, a oedd yn ffrindiau yn Ysgol Bro Myrddin, y dylent wneud hyn yn hytrach na siarad am y peth! Ymunodd Lowri â hwy yn ystod haf 2006, a bellach mae hi'n brysur yn ymarfer gyda'r ddau.


Y ffordd orau i ddisgrifio'r gerddoriaeth yw indi/power pop. Ar hyn o bryd mae'r band wedi recordio wyth cân demo ac yn edrych am label a wnaiff ryddhau rhai ohonynt mewn pryd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhelir yng Nghaerfyrddin ym mis Mai 2007.

Pan lansiwyd safle MySpace iglw roedd yn llwyddiannus ar unwaith. Ychydig o ddyddiau'n ddiweddarach derbyniodd aelodau'r band wahoddiad i ymddangos ar Radio Cymru. Dewiswyd iglw fel band MySpace yr wythnos; y band cyntaf i'w ddethol. Cafodd Aled ei gyfweld a chwaraewyd y gân roc Anghofio am Yfory. Ers hynny mae'r band wedi ymddangos ar C2 a hefyd y Popty (S4C).

Aelodau

Lowri, Gruffydd ac Aled

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Chwefror 2007