Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Java

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2003 - 2006

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

JavaFe ffurfiwyd Java allan o ddau fand arall, yr aelodau i gyd yn mynychu Ysgol Llanbed. Yn 2003 fe ddaeth aelodau dau fand at eu gilydd - Rhodri L, a Ifan (sydd yn mynd i'r coleg eleni) mewn un band, a Rhodri D a Daniel (fydd yn mynd i'r flwyddyn ola yn y 6ed) o fand arall. (Baswr band Ifan a Rhodri oedd drymiwr band Rhodri a Daniel!).

Fe wnaethon nhw dorri trwodd yn Haf 2004 pan ennillon nhw ddau gystadleuaeth "Brwydr y Bandiau"- un Cymdeithas yr Iaith ac un C2/Mentrau Iaith Cymru. Fe adawodd Daniel y band ym Mehefin 2005.

Mi wnaeth y band ddod i ben yn Ebrill 2006 gan fod yr aelodau wedi ei gwasgaru i wahanol golegau, a fe wnaeth y band chwarae ei gig olaf yng Nghlwb Ifor Bach ar y 29fed Ebrill.

Aelodau

Rhodri Daniel - gitâr, llais
Ifan Gwilym - gitâr fas, llais
Rhodri Lewis - drymiau
Cynan Llwyd, a Wilber (yn dod ymlaen i rapio weithiau ;-)

Cyn-aelodau:
Daniel Davies - llais

Disgyddiaeth

Mewn I Jwngl Java - (EP, Rasal CD006, ryddhawyd 27/06/05)

Cyfrannwr: Ifan Gwilym

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mawrth 2006