Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Malcolm Neon

Grŵp | Iaith: Cymraeg

Gwybodaeth

Arloeswr cerddoriaeth electronig lo-fi o'r 80au - fe wnaeth Malcolm Gwyon o Aberteifi rhyddhau nifer o ganeuon o dan yr enw Malcolm Neon. Yn ôl ein atgof bregus ni fe wnaeth Malcolm waith cynhyrchu i nifer o fandiau lleol hefyd. Fe gafodd ei gân "Heno Bydd Yr Adar Yn Canu" ei ddefnyddio fel teitl a cherddoriaeth agoriadol rhaglen Nia Melville ar Radio Cymru ac ei rhaglen hi oedd un o'r llefydd prin wnaeth rhoi llwyfan i'w gerddoriaeth (y stwff gafodd ei recordio ta beth).

Mae llawer mwy i ddweud am yr artist ond sdim mwy o wybodaeth gyda ni.. rhywun yn gwybod mwy?

Disgyddiaeth

Chwilio am wyddoniaeth - (Casetiau Neon, 1980)
Traddodiad - (Casetiau Neon, 1980)
Mwnt - (Casetiau Neon, 1981)
Data - (Casetiau Neon, 1982)
O Aberteifi a Chariad - (Casetiau Neon, 1982)
Meibion Mwnt - (Casetiau Neon, 1983)
Gorwel - (Casetiau Neon, 1983)
Awel y Môr - (Casetiau Neon, 1984)
Chwyldro! - (Casetiau Neon, 1985)
Toriad - (Casetiau Neon, 1985)

Cyfrannwr: Dafydd Tomos

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2005