Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Mega

Grŵp | Arddull: Pop | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1998 - 2000

Gwybodaeth

Marc, Trystan, Rhydian, ArwelMega oedd y boi-band cynta yn y Gymraeg neu o leia un o'r rhai cynta i'w ffurfio gan gynhyrchydd. Fe ffurfiwyd y grŵp gan Emyr Afan a'i gwmni Avanti yn 1998 fel ymgais i greu pop masnachol Cymraeg. Roedd yna elfennau amlwg o greu grŵp apelgar i gynulleidfa ifanc - roedd gan pob aelod ei steil unigryw a ffugenw 'cŵl'.

Fe wnaeth Mega gystadlu yng nghystadleuaeth 'Cân i Gymru' 2000 (wedi gynhyrchu gan Avanti, dyna ryfedd) a daeth y grŵp i ben yn fuan wedyn (?). Fe aeth Rhydian ymlaen i gael gyrfa unigol, aeth Arwel nôl i'w yrfa actio, mae Marc yn dal i ganu ac yn adeiladu gyrfa mewn sioeau cerdd yn y West End a mae Trystan yn gweithio yn y cyfryngau.

Aelodau

Arwel Wyn Roberts - 'Ard'
Marc Llewelyn - 'Icl'
Rhydian Bowen Philips - 'Rib'
Trystan Jones - 'Taz'

Disgyddiaeth

Mwy na Mawr - (Recordiau A3, A3CD 001)

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Medi 2005