Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Neb

Grŵp | Arddull: Roc Trwm | Cyfnod: 2004 -

Gwefan: www.nebband.co.uk

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

NebYn 2004, ar ôl bod mewn nifer bandiau an-llwyddiannus Saesneg, penderfynodd Ben a Steffan greu band Cymraeg newydd. Cafodd yr enw "NEB" ei ddewis, ond roedd y band angen aelodau eraill. Galwodd y ddau ar ddoniau James a Jimmy i chwarae yn y band.

Roedd Ben a Jimmy yn rhannu'r swydd o chwarae'r gitar flaen yn gyntaf, ond doedd hyn ddim yn llwyddiannus. Felly penderfynodd y band i afael yn Pete o Ysgol Bryn Hyfryd i chwarae'r gitar flaen iddynt. Cychwynodd y band ym mis Ebrill.

Roedd gig cynta'r band ym Mrwydr y Bandiau C2 Rownd Rhanbarthol yn erbyn Black Star. Fe ennillodd y band y frwydr, ac ymlaen a nhw i'r rownd nesa. Dewisodd Ben ganolbwyntio ar fod yn leisydd i'r band. Yna
llwyddodd y band i gael 4ydd yn rownd derfynol y frwydr. Sefydlodd y band eu hunain fel band newydd Cymraeg, ac ar ôl chwarae efo nifer o fandiau mwyaf cyffrous y Sîn Roc Gymraeg, mae'r band yn dechrau ennill prês ar gyfer eu gwaith caled ac yn cael ei cydnabod fel un o dalentau ifanc y sîn.

Aelodau

Ben Griffiths - prif leisydd
Pete Ellwood - gitâr flaen
Jimmy Law - gitâr rythm
James Peglar - gitâr fas
Sam Clough - drymiau

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Ionawr 2006