Rhestr Artistiaid - Manylion
Rheinallt H. Rowlands
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1991 - 2003
Gwefan: www.rheinallt.com
Gwybodaeth
Yn y 90au cynnar daeth personoliaeth newydd i amlygrwydd yn ffurf Rheinallt H. Rowlands, oedd yn canu yn ei lais dwfn i gyfeiliant cerddoriaeth epig.
Hanes Rheinallt oedd ei fod yn chwarelwr o Fethesda a wnaed yn ddi-waith ar 17fed o Fai 1980. Wrth iddo wrando ar y radio y noson hynny yn ei ddigalondid fe darodd ar draws rhaglen John Peel ar Radio 1 a chlywodd y newyddion am hunan-laddiad Ian Curtis, canwr y band Joy Division. Fe roddodd hyn ysbrydoliaeth newydd i Rheinallt i fynd ymlaen i drio cael gyrfa fel canwr.
Creuwyd y cymeriad yma gan Owain 'Oz' Wright a Dewi Evans, dau ffrind o Lanfairpwll ar Ynys Môn. Roedd Oz yn cyfansoddi a chanu y caneuon tra roedd Dewi yn creu trefniant cerddorfaol wedi eu chwarae drwy synth yn hytrach na cherddorfa go iawn. Daeth y caneuon hynod yma yn ffefrynnau ar raglenni Hwyrach ar Radio Cymru ar y pryd yn enwedig ar raglen Nia Melville.
Yn 1998 fe wnaeth y band greu trac sain theatrig gafodd ei berfformio'n fyw fel rhan o sioe Y Dyddiau Olaf , Y Dyddiau Cyntaf gan y cwmni theatr arbrofol Brith Gof. Fe wnaeth y band hefyd greu arwyddgân y gyfres deledu Meibion Glandŵr a chyfres radio Y Talwrn.
Roedd stori o drasiedi yn rhan o symbyliad y band ac yn anffodus fe ddaeth y trasiedi yn wirionedd ar 23ain Rhagfyr 2005 - bu farw Oz mewn damwain pan gafodd ei daro gan gar, wrth iddo gerdded yn ôl o gig yn Neuadd Hendre, Bangor.
Aelodau
Owain Wright - llais
Dewi Evans - allweddellau, rhaglennu
Disgyddiaeth
Weithiau a Gwawr newydd yn cilio - dau drac ar CD amlgyfrannog Triskadekaphilia (Ankst CD 061)
Bukowski - (LP/CD, Ankst 71)
Hen Daid Bran a Straeon Eraill - (CD, Ankstmusik 085, 2003)
III - (CD, Ankstmusik 95)
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Gorffennaf 2007