Lleoliadau - Manylion

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Cyfeiriad: Prifysgol Cymru, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3DE

Ffôn: 01970 622 882

Ffacs: 01970 622 883

Llinell Docynnau: 01970 623 232

Gwefan: www.aberystwythartscentre.co.uk

Gwybodaeth

Canolfan y CelfyddydauMae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cael ei hystyried fel y ganolfan fwyaf a'r brysuraf i'r celfyddydau yng Nghymru, gyda rhaglen eang o weithgareddau a digwyddiadau ar draws holl ystod y celfyddydau.

Fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau. 'Rydym yn croesawu dros 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 72,000 o bobl yn mynychu ein rhaglen addysg a chelfyddydau cymunedol unigryw.

Mae'r Ganolfan yn adran o Brifysgol Cymru, Aberystwyth ac fe'i lleolir yng nghanol campws y brifysgol gyda golygfeydd gwych o dref Aberystwyth ac ar hyd arfordir Bae Ceredigion.