Lleoliadau - Manylion
Clwb y Bont
Cyfeiriad: 85a Stryd Tâf, Pontypridd, Rhondda Cynon Tâf CF37 4SL
Ffôn: 01443 491 424
Gwefan: www.yclwb.com
Gwybodaeth
Mae'r Clwb y Bont yn glwb preifat i aelodau wedi ei lleoli ger Stryd Taf, ar ochr yr afon. Fe agorwyd y clwb ym 1983 ar ôl blynyddoedd o godi arian yn y gymuned Gymraeg lleol.
Mae Clwb y Bont yn ymdrechu i hybu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ym Mhontypridd. I'r perwyl hwn mae gan y clwb gofnod da o gynnig gwersi i ddysgwyr Cymraeg dros y blynyddoedd.
Mae hi'n cynnig rhaglen liwgar o fiwsig, twmpathau, a gweithgareddau eraill. Mae'r clwb yn denu cwsmeriaid o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol a does dim rhaid siarad Cymraeg i fod yn aelod neu gwsmer!
Ar y llaw arall mae'r clwb yn annog defnydd y Gymraeg a fe fydd unrhyw un sy'n ymweld a'r clwb mwy na thebyg yn gallu cael sgwrs Gymraeg gyda o leia un aelod o'r staff yn ystod oriau agor cyffredin.