Lleoliadau - Manylion

Theatr Gwynedd

Cyfeiriad: Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2TL

Ffôn: 01248 351 707

Ffacs: 01248 351 915

Llinell Docynnau: 01248 351 708

Ebost:

Gwefan: www.theatrgwynedd.co.uk

Gwybodaeth

Theatr GwyneddMae Theatr Gwynedd yn fan perfformio arwyddocaol wedi ei lleoli yng nghanol Bangor. Theatr dderbyn yw Theatr Gwynedd yn cyflwyno dramau yn yr iaith Gymraeg, Saesneg ac o'r theatr ryngwladol yn ogystal a chyngherddau, opera, dawns draddodiadol a chyfoes, pantomeim ac adloniant ar gyfer plant.

Mae Theatr Gwynedd yn sinema dolby digidol sydd yn dangos rhaglen wahanol o ffilmiau.

Mae gan Theatr Gwynedd adnoddau penigamp ar gyfer darlithoedd a chynadleddau gyda awditoriwm sydd yn eistedd 348 ac mae yma far sylweddol. Gallwn hefyd fod o gymorth i drefnu eich anghenion arlwyo. Gallwch gerdded yma o fewn 10 munud o'r orsaf drenau a cherdded o'r orsaf bwsus mewn 5 munud.