Lleoliadau - Manylion

Y Plu

Cyfeiriad: Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0SH

Ffôn: 01766 523 276

Ebost:

Gwefan: www.tafarnyplu.com

Gwybodaeth

Tafarn wledig fechan draddodiadol mewn ardal a'r Gymraeg yn dal yn iaith i'r mwyafrif llethol, gyda gardd gwrw sylweddol.

Chwaraeir cerddoriaeth gefndir Cymraeg yn unig, a chynnyrch Cymreig gaiff ei hyrwyddo'n bennaf. Mae'r diodydd a'r bwyd a gynigir yma yn gynnyrch Cymreig lle bynnag y bo
modd. Gwerthir yma gwrw Brains, Felinfoel a Bragdy Conwy, seidr Gwynt y Ddraig, jin, fodca a wisgi o Ddistylldy Penderyn, gwinoedd Cariad a Monnow Valley. Daw peth wmbredd o'r bwyd hefyd o Gymru, yn gigoedd a llysiau, gyda'r llysiau yn eu tymor yn cael eu prynu oddi fewn i dair milltir o'r dafarn.