Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Dathlu 15 mlynedd o R-bennig

Dydd Sadwrn, 16 Ebrill 2005 - 2:39pm | Labeli |

O'r DdaeargellMae Recordiau R-bennig yn 15 mlynedd oed ac i ddathlu'r penblwydd mae'r label wedi ryddhau CD arbennig yn cynnwys 21 trac newydd heb ei rhyddhau o'r blaen. Dros y blynyddoedd mae'r label wedi dilyn llwybr anghonfensiynol a di-gyfaddawd yn ei ddewis o gerddoriaeth a'i ddull o weithredu.

Mae'r CD newydd O'r Ddaeargell (Vol 1) yn dangos yr amrywiaeth o artistiaid sydd wedi cael ei cefnogi gan y label dros y blynyddoedd, o'r rapwyr benywaidd A5 i electronica arbrofol Ninki-V ac o draciau pop soulaidd y Waw Ffactor i electro-rap Afallon.

Ar ôl blynyddoedd yn rhedeg y label yng Nghwalchmai, Ynys Môn mae Johnny 'R' - yr 'egni' tu ôl i'r label - nawr yn gweithio o swyddfa newydd ym Mangor a mae'n sicr y bydd llawer mwy o gynnyrch cyffrous i'w glywed ar y label yn y dyfodol. Ewch draw i wefan R-Bennig am fwy o wybodaeth.

Cyfrannwr: Dafydd Tomos

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:17pm