Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Diwydiant cerddoriaeth yn canolbwyntio ar ddarlledu

Dydd Gwener, 15 Ebrill 2005 - 2:22pm | Diwydiant |

Y mis nesaf ceir diwrnod agored arbennig i'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg i drafod materion sy'n ymwneud a'r defnydd o gerddoriaeth yn y byd darlledu. Bydd y digwyddiad, sydd yn cael ei gydlynnu gan Welsh Music Foundation (WMF) mewn cydweithrediad gyda S4C a'r BBC, yn cynnwys cynrychiolaeth o'r prif orsafoedd radio cenedlaethol, adrannau perthnasol o fewn y BBC & S4C, yn ogystal ag unigolion o gwmniau cynyhyrchu teledu a ffilm. Dros bedwar sesiwn gwahanol bydd y pynciau canlynol yn cael ei trafod; canllawiau 'plugging', cerddoriaeth cyfoes mewn teledu a ffilm, y defnydd pellach o gerddoriaeth - hawliau & hawlfraint, cerddoriaeth cefndir & marchnata.

Dywedodd Guto Brychan, Swyddog Gymraeg WMF, " Mae'n bwysig iawn i'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg fod yn ymwybodol o'r ffyrdd mae darlledwyr yn gweithredu. Trwy esbonio'r broses mewn digwyddiad fel hon rydym yn gobeithio codi'r ymwybyddiaeth o'r gwahanol elfennau sydd yn dylanwadu'r defnydd a ddewis o gerddoriaeth mewn unrhyw gynhyrchiad neu rhaglen radio. Mae creu canllawiau 'plugging' yn engraifft berffaith o hyn - trwy lunio pwyntiau penodol ar gyfer y labeli Cymraeg mae'n bosib rhoi system mewn lle sy'n glir i bawb.

Rhaid nodi hefyd mae dyma'r tro cyntaf i'r diwydiant cerddoriaeth a darlledu i ddod ynghyd mewn digwyddiad fel hon, ac o ganlyniad mi fydd yn gyfle gwych i greu a datblygu cysylltiadau newydd gyda eraill yn y maes."

Mae'r diwrnod agored yn cael ei gynnal ym mhencadlys S4C yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 6ed o Fai, 2005.

Mae'r digwyddiad yn agored i gynhyrchwyr cerddoriaeth Cymraeg sydd eisiau cael ei cerddoriaeth wedi ei chwarae ar y teledu a radio yng Nghymru, yn ogystal a phobl sy'n cynhyrchu i radio a theledu.

Mi fydd y sesiwn yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mi fydd offer cyfieithu ar gael. A fedrwch chi gysylltu gyda ni o flaen llaw os oes angen offer cyfieithu arnoch.

Os oes ganddo chi ddiddordeb mynychu'r digwyddiad, cysylltwch gyda Guto Brychan, naill ai trwy ebost - guto@welshmusicfoundation.com - neu trwy ffonio swyddfa WMF; (029) 20668127.

Cyfrannwr: Guto Brychan

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 8:16pm