Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Clwb Senglau Rasal i hyrwyddo cynnyrch newydd

Dydd Mawrth, 31 Mai 2005 - 3:32pm | Labeli |

RasalMae label newydd Rasal wedi cyhoeddi rhestr o'r cynnyrch sydd i'w ryddhau ar y label yn y misoedd i ddod. Mi fydd y Clwb Senglau newydd yn lansio er mwyn hyrwyddo'r cynnyrch newydd.

O Fehefin y 5ed ymlaen fe fydd hi'n bosib llwytho lawr copi o'r senglau o wefan Rasal gan gannwys traciau gan Winebago, Llwybr Llaethog, Daniel Lloyd ac Alun Tan Lan. Mae'r senglau wedi ei cymeryd oddi ar albymau fydd yn cael eu ryddhau o Fehefin ymlaen.

Mae'r arlwy yn cynnwys albymau gan artistiaid newydd fel Java a Sibrydion, ail albwm gan Alun Tan Lan yn ogystal a record newydd gan yr hen ffefrynnau Llwybr Llaethog. Mae Rasal hefyd wedi rhoi lle i fandiau mawr y gorffennol, gyda record o oreuon y band Topper a set 4-CD o ganeuon anhygoel Y Cyrff.

I gofrestru gyda Clwb Senglau Rasal, ewch i wefan Rasal, ac yn y cyfamser, dyma amserlen ryddhau y label yn y misoedd i ddod.

Mehefin 27ain - RAS CD006 - JAVA - Mewn I Jwngl Java (EP)
Gorffennaf 11eg - RAS CD007 - Llwybr Llaethog - Mega Tidy (LP)
Gorffennaf 18fed - RAS CD008 - Daniel Lloyd a Mr Pinc - Goleuadau Llundain (LP)
Gorffennaf 25ain - RAS CD009 - Sibrydion - JigCal (LP)
Awst 1af - RAS CD010 - Alun Tan Lan - Distawrwydd (LP)
Awst 1af - RAS CD011 - Topper - Goreuon (LP)
Awst 1af - RAS CD012 - Y Cyrff - Box Set (4LP)
Medi 5ed - RAS CD013 - Drymbago (LP)

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 8:17pm