Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Kenavo - Ti'n gwybod be fi'n meddwl

Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2005 - 1:11pm | Artistiaid |

Wythnos nesaf yn Eisteddfod Eryri, fe fydd Kenavo yn ryddhau nifer cyfyngedig o EP newydd "Ti'n gwybod be fi'n meddwl". Fe fydd 200 copi ar gael am ddim os ydych chi'n ddigon cyflym.

Dyma'r ail CD gan Kenavo yn dilyn ryddhau "Twix, Crisps a Brechdan Tywod" llynedd - mae swn y CD newydd ychydig yn wahanol ac yn llai poppy na'r un blaenorol.

Mae'r band yn eich annog i droi'r sain i fyny'n uchel ar gyfer y gân gyntaf - Dim Gwaith gyda'i ddrymiau a gitars uchel. Os ydych wedi gweld y band yn fyw mi fyddwch yn gyfarwydd a'r ail drac Y Meistr, gyda arddull fwy hip-hop draddiadol ond eto a digon o'r gitâr i gadw'r gitarydd allan o drwbl. Yn Y Meistr mae odlau Cynan Llwyd, y rapiwr ifanc sydd wedi gwneud enw i'w hun eleni, i'w clywed yn glir. Byddwch chi'n falch o gael seibiant erbyn y trydydd trac, can chilled ydy Credu fod na ffordd gyda Cynan yn sibrwd y rap.

Y gân olaf ydy Meibion G yn y BBC - efallai i chi weld y band yn ei berfformio ar Bandit ym mis Ebrill eleni. Rydych wedi clywed am yr holl theoriau cynllwyn am 9/11 o bosib ond yn y trac olaf yma fe allwn ni ddatgelu stori sydd wedi bod yn gyfrinachol am flynyddoedd. Mae'r gân yn olrhain hanes Meibion Glyndwr yn cael mynediad i'r BBC, fe sylwch nad Cynan sydd yn rapio yn gân yma - pwy tybed sy'n dweud y stori?

Yn ôl y band, fe recordiwyd y caneuon gyda meicroffon rhad o Argos! Felly er eu bod yn yn cydnabod nad ydy'r ansawdd cystal â stiwdio broffesiynol maent yn gobeithio fydd y record yn ysbrydoliaeth i artistaid eraill sydd am fod yn greadigol ond heb arian i wario ar offer drud. Maent yn dymuno i gynifer â phosib i glywed eu cerddoriaeth a dyna pam fod y CD am ddim.

Mi fydd a CD ar gael gan y band drwy gydol wythnos yr Eisteddfod neu ewch i gig Kenavo ar y nos Iau.

Cyfrannwr: Rhys Llwyd

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:21pm