Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Y Super Furries yn fyw ar S4C o'r Sesiwn Fawr

Dydd Mercher, 06 Gorffennaf 2005 - 5:11pm | Gigs |

Fe fydd gig y band Cymreig Super Furry Animals yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni i'w gweld yn fyw ar S4C ar nos Wener, 15 Gorffennaf.

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i'r Sianel ddarlledu perfformiad byw gan y band roc seicadelig ac mae'n un o uchafbwyntiau penwythnos sydd hefyd yn cynnwys darlledu byw ar nos Sadwrn yr ŵyl gyda lein-yp rhyngwladol deniadol o artistiaid roc, reggae a gwerin.

Ers ffurfio'r band yng nghanol y 90au, mae'r Super Furry Animals wedi magu enw rhyngwladol am eu sain unigryw, eclectig a'u perfformio byw egniol.

Mae'r cyngerdd hwn yn dilyn llwyddiant gig fawr y llynedd pan ddaeth Cerys Matthews a'i grŶp canu gwlad o Tennessee, yr UDA i berfformio yn y Sesiwn. Criw'r Ffatri Bop, Rhondda yw un o drefnwyr noson yr SFA, a chwaer gwmni'r Ffatri, Teledu Avanti sy'n cynhyrchu'r rhaglenni i S4C.

Meddai Ceri Sherlock, Comisiynydd Cerdd S4C, "Rwy'n falch mas draw bod y Super Furries yn perfformio yn Y Sesiwn Fawr ar S4C. Dyma un o'r bandiau Cymraeg a Chymreig mwyaf cyffrous yn gerddorol, celfyddydol a diwylliannol. Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r miloedd fydd yn gwylio'r gig yn fyw yn Nolgellau ar S4C."

Bydd yna ddarlledu byw nos Sadwrn yr ŵyl hefyd, pan fydd modd mwynhau parti reggae sy'n cynnwys perfformiadau gan y band Cymraeg Estynedig, sy'n gyfuniad o'r grwpiau Anweledig, Estella a Vates, a Nasio Fontaine, yr artist reggae o Ddomenica, yn y Caribî a ddisgrifir fel y 'Bob Marley newydd'.

Yn ogystal, bydd rhaglenni nos Wener a nos Sadwrn yn cynnwys uchafbwyntiau o weddill Y Sesiwn Fawr, gyda pherfformiadau gan un o sêr newydd y byd gwerin, Karine Polwart, a Mozaik, sy'n cynnwys aelodau o'r band gwerin chwedlonol Planxty.

Mae'r Sesiwn Fawr hefyd yn adlewyrchu cynnwrf y sîn gerddorol yng Nghymru, gydag Elin Fflur, The Poppies, Frizbee, Drymbago, Alun Tan Lan a Huw Chiswell yn yr arfaeth.

Sesiwn Fawr Dolgellau: Super Furry Animals
Nos Wener, 15 Gorffennaf, 10.30pm, S4C, yn fyw
Nos Sadwrn, 16 Gorffennaf, 10.00pm, S4C, yn fyw

Dyma fanylion gigs y Sesiwn Fawr.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:16pm