Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Lansio Gweithdai Roced ym Mhwllheli

Dydd Mawrth, 09 Awst 2005 - 12:38pm | Diwydiant |

Bydd prosiect cyffrous yn cael ei lansio ym Mhwllheli yr haf yma. Mae cerddorion lleol, ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Yr Iaith, Menter Iaith, Cyngor Gwynedd, Cymunedau'n Gyntaf a Gwallgofiaid Cyf, wedi sefydlu gweithdai roc a phop i bobl ifanc yr ardal.

Bydd y gweithdai yn debyg i brosiect sydd eisoes yn cael ei gynnal ym Mlaenau Ffestiniog - Gweithdai'r Gwallgofiaid - prosiect sy'n rhoi cymorth i fandiau ifanc i ddatblygu gyda chyngor gan tiwtoriaid o'r Sîn Roc Cymraeg - megis aelodau o fandiau adnabyddus fel Kentucky AFC ac Anweledig.

"Mae prosiect Gwallgofiaid wedi bod yn llwyddiannus iawn" meddai Stephen Williams, tiwtor gitâr lleol, ac arweinwr prosiect Roced...

"Mae pobl ifanc Blaenau Ffestiniog wedi datblygu gymaint fel cerddorion a phobl ifanc, a hefyd wedi rhyddhau CD amlgyfranog. Rydym yn edrych ymlaen i roi'r cyfle yma i bobl ifanc Dwyfor."

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn Ysgol Botwnnog a Chanolfan Fron Deg Pwllheli, ac yn rhad ac am ddim i bobl ifanc rhwng 13 17 sydd â diddordeb mewn canu neu yn medru chwarae offeryn yn barod - gitâr, drymiau, gitâr fas neu allweddellau.

Cynhelir tair sesiwn ym Mhwllheli a thair ym Motwnnog gan ddechrau ar yr 11fed o Awst (o 6.00y.h i 8.15yh), ym Motwnnog a nos wener ym Mhwllheli gyda'r bwriad o ymestyn y prosiect i redeg yn wythnosol gyda'r nos yn ystod tymor yr ysgol.

Bydd y gweithdai yn cael eu lansio yn swyddogol gan yr Aelod Seneddol Hywel Williams, nos Iau ym Motwnnog am 6.00yh.

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru, ffoniwch (01758) 614114 neu anfonwch eich manylion cyswllt at roced@inbox.com gan nodi pa offeryn yr ydych yn ei chwarae.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:23pm