Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Gŵyl Bibau Pencader 2005

Dydd Mawrth, 09 Awst 2005 - 1:27pm | Gigs |

Mae Gŵyl Bibau Pencader, nawr yn ei chweched flwyddyn, wedi cyhoeddi manylion am yr ŵyl sy'n cael ei gynnal ym mis Medi.

Mae'r ŵyl wedi adeiladu enw da iddo'i hun lle mae'r safonau rhyngwladol uchaf o bibau yn cael eu cyflwyno mewn lleoliad acwstig, anffurffiol a chlud - dau bentref gweldig yng Ngorllewin Cymru, Pencader a Llanfihangel-ar-Arth.

Mae'r ŵyl eleni yn canolbwyntio ar bibau a bibau-corn yng Nghymru, gyda rhestr westai heb ei ail o'r mynegwyr blaenaf o bibau Cymreig heddiw.

Fel arfer, fe fydd gweithgareddau ymylol yn cynnwys taith gerdded dywys i Graig Gwrtheyrn, sesiynau yn y tafarndai lleol a gwledd o fwyd a chwrw lleol ar y dydd Sadwrn.

Tâl mynediad i bob cyngerdd yw £5. Tâl am fynediad i'r wledd yw £10 a mae'n rhaid archebu o flaen llaw am fod nifer y seddau yn gyfyngedig.

Mae cyfleusterau syml i gampio ar gael am ddim yn Llanfihangel-ar-Arth.

Cyngerdd Dydd Gwener, Medi 9: Eglwys Llanfihangel-ar-Arth. 7.30pm
Cyngerdd Dydd Sadwrn, Medi 10: Hen Gapel Pencader. 7.30.pm

Rhestr wadd y pibyddion:

Stephen Rees & Andy McLaughlin - pibgyrn
Ceri Rhys Matthews & Chris O'Connor - pibe cyrn & tabwrdd bag
Rhodri Smith - pibe cwd
Jason Lawday & Martin Leamon - pibe cwd & acordion
Antwn Owen Hicks - pibe cwd
Diarmuid Johnson - ffliwt bren
Sara Osbourn & Ceri Webber - ffliwte pren

I archebu ticedi ar gyfer y wledd, ebostiwch ceri.matho@btinternet.com

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:23pm