Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Taith Cymru, Lloegr a Llanrwst

Dydd Mawrth, 13 Medi 2005 - 1:27pm | Gigs |

Y Cyrff - Atalnod LlawnMae label Rasal wedi ryddhau casgliad arbennig iawn o ganeuon Y Cyrff. Mae'r set 4 CD Atalnod Llawn yn gasgliad cyflawn o waith y Cyrff rhwng 1982 a 1992. Mi fydd y set yn cael ei rhyddhau yn swyddogol ar 26ain o Fedi ac yn gwerthu am £24.99

I gyd-fynd a rhyddhau'r casgliad, mi fydd Taith Cymru, Lloegr a Llanrwst yn mynd a chaneuon bythgofiadwy'r band i'r tri lleoliad yma.

Yn canu rhai o glasuron Y Cyrff yn ogystal ag ambell i berl llai adnabyddus. Mi fydd Alun Tan Lan yn chwarae gyda Kentucky AFC, Maharishi, Dan Amor a Jen Jeniro.

Mae'r daith yma yn gyfle unigryw i weld rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru yn chwarae caneuon Y Cyrff. Mae'r artistiaid/bandiau i gyda a chysylltiadau cryf a Llanrwst (heblaw Kentucky AFC sydd wedi llwyddo i wthio'i ffwrdd i mewn i'r lein-yp beth bynnag!).

Yn ôl Alun Tan Lan - "Y Cyrff nath ysbrydoli fi, a llawer mwy dwi'n siwr, i ddechrau chwarae gitâr. Fe wnaethon nhw gyfraniad hynod o bwysig i gerddoriaeth Gymraeg".

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Rasal - ebostiwch rasal@rasal.net neu ffoniwch (01286) 831111

Dyma fanylion y tri gig sydd ar y daith

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:24pm