Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Ail frigyn ar y goeden

Dydd Llun, 03 Hydref 2005 - 7:30pm | Artistiaid |

Brigyn 2Llai na blwyddyn ar ôl ryddhau ei halbym cynta, mae Brigyn wedi cwblhau ei hail albym ac yn paratoi i'w ryddhau ym mis Hydref. Fe fydd taith fer yn cyd-fynd a lansiad y CD gan ddechrau yng Nghlwb Ifor Bach.

Mae sŵn Brigyn yn gymysgedd o gerddoriaeth electronica, gwerinol a defnydd o samplau cerddorfaol, sydd i'w glywed yn glir yn yr albym newydd.

Er mai tebyg oedd y dull o recordio yr albym mae'r brodyr Ynyr ac Eurig Roberts yn teimlo fod sain cyfoethocach ar yr ail albwm, yn gymysgedd o lawer o syniadau cymleth ac arbrofol.

Maent wedi rhoi naws gwahanol i'r albym yma gyda'r rhan fwyaf o'r geiriau yn son am hapusrwydd, prysurdeb, a bodlondeb bywyd yn gyffredinol.

Brigyn 2 yw teitl yr albym newydd ond yn ôl y brodyr, nid diffyg dychymyg yw hyn ond gosod sail i barhau gyda Brigyn yn y dyfodol. Ar ôl profi'r ymateb ffafriol iawn i'w cerddoriaeth mae'n siwr y bydd Brigyn yn parhau i blesio'r gynulleidfa gyda fwy o albymau o safon yn y dyfodol.

Chwiliwch am gigs Brigyn.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:24pm