Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Llanast Llanrwst 2005

Dydd Iau, 27 Hydref 2005 - 2:28pm | Gigs |

Mae Llanast Llanrwst yn dathlu ei ben-blwydd yn dair oed eleni, ac fel rhan o'r parti, mae wythnos o weithgareddau yn nhref Llanrwst o'r 18fed hyd at yr 26ain o Dachwedd.

Ers 2002, mae'r digwyddiad wedi tyfu i gynnal mwy o ddigwyddiadau, ac yn 2005 mae yna wledd pen-blwydd o gigs, Beirdd Blws, gweithdai stepio a brecddawnsio, noson o ddawns, DJs, bandiau, Theatr Bara Caws, Wreslo bôn braich a Orig Williams, gweithgareddau dysgwyr, eisteddfod dafarn, sioeau i'r plant, gweithdai i ysgolion, ac wrth gwrs yr enwog sesiwn llanast ar y nos Sadwrn olaf.

Eleni hefyd mae elfen rhyngwladol i'r Llanast, gyda Paul Dooley yn ymweld o Iwerddon, Jim Rowlands a Hywel John o Ffrainc, Narbet Chikenza o Zimbabwe a hyd yn oed Meic Stevens o Solfa!

Ac am ei bod yn ben-blwydd ar y llanast, mae'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau am ddim! Ac mae crysau-t arbennig ar gael!

Ewch i wefan yr ŵyl am fanylion llawn y digwyddiadau.

Neu dyma fanylion y gigs.

Cyfrannwr: Iwan Williams

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:28pm