Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Prif Ganwr y Gorkys i Ddechrau Gyrfa Unigol yn y Cŵps

Dydd Gwener, 18 Tachwedd 2005 - 3:21pm | Artistiaid |

Bydd prif ganwr y Gorkys Zygotic Mynci, Euros Childs, yn perfformio yn Nhafarn y Cŵps, Aberystwyth ar nos Fercher Tachwedd 30ain. Mae'r gig yn ran o daith o'r DU i hyrwyddo ei sengl unigol cyntaf, Monkey Island, ac yn un o ddim ond tri dyddiad ble bydd yn perfformio yng Nghymru.

Dechreuodd Euros ei yrfa cerddorol hynod fel prif ganwr a phrif gyfansoddwr y band gwerinol-seicadelig Gorky's Zygotic Mynci ar ddechrau'r nawdegau gan flasu llwyddiant rhagorol o oedran ifanc iawn. Mae'r band ar hyn o bryd yn cymryd egwyl wedi blynyddoedd prysur iawn lle bu iddyn nhw ryddhau 10 albwm.

Yn y cyfamser, mae Euros wedi penderfynu fod hyn yn gyfle perffaith iddo ddechrau ei yrfa unigol ac wedi ei arwyddo gan label Wichita. Bydd y sengl yn cael ei ddilyn gan yr albwm newydd, Chomps, yn gynnar yn 2006.

Bydd Childs yn cael ei gefnogi ar y noson gan y canwr-gyfansoddwraig, Fflur Dafydd, sydd wedi blasu cryn lwyddiant gyda ei halbwm cyntaf Coch am Weddill fy Oes. Bydd drysau'n agor am 8:00yh ac mae tocynnau'n costio £6 ac ar werth o'r Cŵps. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch owsgiv@hotmail.com.

Cyfrannwr: Owain Schiavone

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:30pm