Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Nos Galan yng Nghlwb Ifor Bach

Dydd Mawrth, 20 Rhagfyr 2005 - 4:26pm | Gigs |

Ashokan / Radio Luxembourg
DJs Ian Cottrell / Gareth Potter / Barry Bwp / Guto Brychan / Dai Lloyd

Mae Clwb Ifor Bach yn falch o gyflwyno dau o'r bandiau mwyaf cyffrous yn y Sîn Roc Gymraeg ar gyfer gig nos Galan yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Mae roc trwm Ashokan wedi ennill llawer o edmygwyr, yn ogystal â'r wobr am "Band Cymraeg ei hiaith orau" yng ngwobrau Cerddorol Cymru 2004.

Daw'r cefnogaeth gan fand ifanc o ardal Aberystwyth, sef Radio Luxembourg, sy' wedi ffrwydro ar y sîn eleni gyda'r sengl "Pwer y Fflwer" ar label Ciwdod - un o senglau'r flwyddyn heb os. Mae eu Psychadelia-Roc yn siwr o ddechrau'r parti gyda ffrwydriad cariadus...

Bydd troellwyr gorau Clwb Ifor Bach yn ymddangos gyda chymysgedd o synau i groesawi'r flwyddyn newydd ac i ffarwelio a 2005 - indie / roc ar y llawr top a rhwng y bandiau, Cymraeg a dawns ar y llawr canol a cherddoriaeth gyfoes, siart a chlasuron Cymraeg ar y llawr gwaelod.

Dyma fanylion llawn y gig

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:31pm