Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Brwydr y Bandiau 2006

Dydd Gwener, 06 Ionawr 2006 - 10:00am | Artistiaid |

Mae Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 yn chwilio am y band mawr nesaf o Gymru, ac yn gofyn i gerddorion Cymru gysylltu ar unwaith er mwyn dangos eu doniau.

A ydych chi eisiau bod y Frizbee, Mim Twm Llai neu'r Cofi Bach nesaf ac eisiau cyfle i ennill y gwobrau canlynol?

  • Recordio sesiwn i raglen C2 ar Radio Cymru
  • Chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
  • Rhyddhau CD
  • Ymddangos ar raglen deledu Bandit ar S4C
  • Perfformio yn Maes B, Eisteddfod Abertawe 2006
  • Perfformio mewn un o ddigwyddiadau mawr Radio Cymru

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cysylltwch â'ch Menter Iaith leol - mae manylion cyswllt ar wefan y Mentrau Iaith. Peidiwch ag oedi cyn bwcio'ch lle! Bydd rowndiau lleol y gystadleuaeth yn digwydd yn ystod mis Ionawr 2006 gyda'r rownd derfynol yn digwydd ar C2 ar Radio Cymru ar Ebrill 5ed.

Dywedodd Meirion Llywelyn Davies, cadeirydd Pwyllgor Staff Mentrau Iaith Cymru "Mae'r gystadleuaeth hwn yn gyfle gwych i artistiaid dorri drwodd i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r gwobrau yn wych, cael recordio sesiwn C2, chwarae yn gigs Mentrau Iaith, rhyddhau CD, ymddangos ar raglen deledu Bandit ar S4C, a perfformio yn Maes B Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ac yn un o ddigwyddiadau mawr Radio Cymru. Mi fuaswn i wedi neidio ar y cyfle pan oeddwn i yn ifanc, ac hoffwn annog pawb sydd a diddordeb i gysylltu ar unwaith gyda'u Menter Iaith lleol".

Mae croeso i fandiau ac artistiaid o unrhyw fath gystadlu - roc, hip-hop, jazz, blues, pop, gwerin, dawns, ayyb. Does dim ots faint o aelodau sydd yn y band ac mae croeso i artistiaid unigol a deuawdau drio. Dim ond bod rhan fwyaf o'r aelodau yn 21 mlwydd oed neu iau, bod y band neu artist heb ryddhau CD sydd ar werth mewn siopau (heblaw am ymddangos ar CD aml-gyfrannog), a'u bod yn gallu perfformio tair cân Gymraeg. Mae mor syml â hynny!

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:32pm