Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Miwsig i'r Meddwl

Dydd Gwener, 10 Mawrth 2006 - 3:18pm | Gigs |

All cerddoriaeth effeithio'ch meddwl? Wrth gwrs mae'n gallu eich wneud chi'n hapus neu drist neu eich hala'n gandryll. Yn oes y cerddoriaeth pseicadelig, fe gymerodd pobl gyffuriau er mwyn gweld y byd mewn ffordd wahanol a mae sawl un heddiw yn credu y gall cerddoriaeth codi'r calon heb gyffuriau.

Mae prosiect y cenhedloedd bychain yn cynnal gig arloesol yn Llandeilo ar Sadwrn 18fed o Mawrth. Nid menter hypnotig yw hwn fodd bynnag ond taith gyffrous mewn i gerddoriaeth sy'n siarad a chi heb ddefnyddio geiriau, ond trwy cymysgedd o sŵn a lliw fydd yn eich cymryd ar daith esoterig - i'r gorffennol ac i'r dyfodol.

Ewch nôl i oes y mwstasys hir a'r trowsusau anhygoel. Ag ymlaen i gerddoriaeth cyfrifiadurol yn cael ei chwarae'n fyw.

Dewch i glywed y rhythmau mawr a'r synau eang. Rhowch dro arno - fe fydd yn hwyl.

Neuadd Ddinesig Llandeilo - Dydd Sadwrn Mawrth 18 2006 - 8.30 y.h

Casgliad o gerddorion o Orllewin Cymru yw Sendelica gyda'u gwaith yn adleisio Pink Floyd y 60'au hwyr wedi cymysgu a grwpiau dawns o'r 80'au/90'au megis The Orb a The KLF. Defnyddiant swn naturiol a seiniau electronig fel man cychwyn ar gyfer ymchwiliad ehangol mewn cerddoriaeth. Mae'r sylfaenydd Pete Bingham (gitar ac offer electronig) yn adnabyddus am ei waith eclectig yn y grwp dawns/electronaidd Kald.

Ymddangosodd Glen, bas-gitarydd ac ystlythwr Nik Turner a sylfaenydd CAN gyda Damo Suzuki's Network yn y DU llynedd. Mae Colin Lloyd ar y gitar a Marc Weldon ar y drymiau yn adnabyddus eisioes am eu gwaith yng nghylch cerddoriaeth byw yng Nghymru. Mae Sendelica yn gweithio gyda rheolwr Post Office Records a ffefryn John Peel, Dave Handford sydd wedi cynhyrchu sioeau gweledol gwych s'yn efelychu sioeau gan y Velvet Underground, Hawkwind a Pink Floyd.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:36pm