Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Beirdd v Rapwyr Eisteddfod Abertawe

Dydd Gwener, 28 Gorffennaf 2006 - 4:32pm | Gigs |

Beirdd v RapwyrMae rhai o feirdd Cymru yn ymgynnull yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar nos Lun Awst 7fed. Ond nid ar y maes yn eu gwisgoedd gorseddol ond yn y Glamorgan Arms Pontlliw. Nid i eistedd mewn gornel tywyll dros beint, yn synfyfyrio am fywyd ac y rheswm i fyw a bod, cawn nhw ddim amser i wneud hynna, oherwydd mi fydda nhw yn rhy brysur yn amddiffyn eu hunain rhag geiriau caled rapwyr gorau Cymru.

Bydd Geraint Lovgreen, Gwyneth Glyn, Twm Morys a Gwenno Mair Davies yn ceisio osgoi geiriau cryf Ed Holden, Steffan Cravos a MC Saizmundo, a cwffio yn ôl i gipio coron Enillwyr Beirdd v. Rapwyr Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Yn y canol yn cadw trefn fydd y Meuryn, neu y Godrapiwr fel mae'n cael ei alw, sef Aneirin Karadog, ac yn ei gynorthwyo bydd DJ Dyl Mei.

Mae'r noson yn cael ei drefnu ar y cyd gan Menter Iaith Abertawe, Mentrau Iaith Cymru a Cymdeithas Yr Iaith. Mae' hefyd yn lansiad taith Beirdd v. Rapwyr fydd yn teithio i Rhosllannerchrugog, Llangadfan Powys, Sarn Pen Llyn, Pumsaint, Aberystwyth a Llanrwst ym mis Hydref a Tachwedd. Manylion pellach ar wefan Beirdd v Rapwyr.

Felly byddwch yn barod am yr ornest, a noson llawn brwydro, colbio, curo, cwffio, ffeitio, paffio, sgrapio, taro. Bydd rhyfel, ymrafael, ymaflyd, cyweirio, gwrthdaro, helynt, trafferth a llanast, ond gobeithio bydd dim gwaed a dim ond geiriau.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:38pm