Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Cyhoeddi Perfformwyr Gig Mawr Bont

Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2008 - 2:33pm | Gigs |

Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth Gymraeg fwyaf Ceredigion, Gig Mawr Bont, wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn perfformio eleni. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar benwythnos olaf mis Mehefin unwaith eto eleni, ac ymysg yr enwau sy’n tynnu dŵr i’r danedd bydd Gwibdaith Hen Frân, Sibrydion a Huw Chiswell.

Hon fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i Gig Mawr Bont gael ei chynnal ac mae’r trefnwyr o’r farn ei fod yn llenwi bwlch pwysig yng nghalendr y gwyliau. Dywedodd Owain Schiavone, Rheolwr Pafiliwn Bont “Mae yna wagle mawr o ran gwyliau cerddorol yng Nghanolbarth Cymru ers i’r Cnapan ddiflannu ac rydym yn ceisio llenwi’r gwagle hwnnw. Mae’r ŵyl yn mynd o nerth i nerth gyda’r gynulleidfa’n tyfu’n flynyddol. Bydd gig nos Wener 27ain gyda Sibrydion, Radio Luxemburg a’r Ods yn y prif Awditoriwm eleni hefyd, felly mae sgôp i ni ddenu dros 4000 o bobl yn ystod y penwythnos.”

Bydd arlwy nos Sadwrn yr ŵyl yn cynnwys Brigyn, Gai Toms, Gwibdaith Hen Frân a pherfformiad arbennig gan Huw Chiswell gyda band llawn, 16 aelod. Meddai Owain, “Fe fuo ni’n trafod gyda cwpl o artistiaid rhyngwladol ynglŷn a’r gig, cyn penderfynu fod digon o artistiaid Cymraeg da i lenwi’r amserlen. Roedd artistiaid Cymraeg yn arfer llenwi’r hen Bafiliwn yn gyson, felly does dim rheswm pam na all lineup Cymraeg lenwi’r lle ar ei newydd wedd hefyd.”

Caiff Gig Mawr Bont ei gynnal ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 27-28ain Mehefin. Bydd tocynnau ar gael i’w prynu yn yr wythnosau nesaf. Am fanylion llawn y penwythnos ac am wybodaeth ynglŷn thocynnau gallwch ymweld â’r wefan.

Cyfrannwr: Owain Schiavone

Diweddarwyd: 10 Mehefin 2008, 2:37pm