Newyddion - Manylion
Taith Cymru, Lloegr a Llanrwst
Dydd Mawrth, 13 Medi 2005 - 1:27pm | Gigs |
Mae label Rasal wedi ryddhau casgliad arbennig iawn o ganeuon Y Cyrff. Mae'r set 4 CD Atalnod Llawn yn gasgliad cyflawn o waith y Cyrff rhwng 1982 a 1992. Mi fydd y set yn cael ei rhyddhau yn swyddogol ar 26ain o Fedi ac yn gwerthu am £24.99
I gyd-fynd a rhyddhau'r casgliad, mi fydd Taith Cymru, Lloegr a Llanrwst yn mynd a chaneuon bythgofiadwy'r band i'r tri lleoliad yma.
Yn canu rhai o glasuron Y Cyrff yn ogystal ag ambell i berl llai adnabyddus. Mi fydd Alun Tan Lan yn chwarae gyda Kentucky AFC, Maharishi, Dan Amor a Jen Jeniro.
Mae'r daith yma yn gyfle unigryw i weld rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru yn chwarae caneuon Y Cyrff. Mae'r artistiaid/bandiau i gyda a chysylltiadau cryf a Llanrwst (heblaw Kentucky AFC sydd wedi llwyddo i wthio'i ffwrdd i mewn i'r lein-yp beth bynnag!).
Yn ôl Alun Tan Lan - "Y Cyrff nath ysbrydoli fi, a llawer mwy dwi'n siwr, i ddechrau chwarae gitâr. Fe wnaethon nhw gyfraniad hynod o bwysig i gerddoriaeth Gymraeg".
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Rasal - ebostiwch rasal@rasal.net neu ffoniwch (01286) 831111
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:24pm