Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Crisialau Plastig

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1987 - 1989

Gwybodaeth

Fe ffurfiwyd y band gan dri disgybl yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth a fuon nhw yn gigio dros Cymru - yn cynnwys dod yn ail i'r Orsedd yn Steddfod Roc Caerdydd (trefnwyd gan CIG).

Yn 1998 fe wnaethont recordio caset Anoracs a Bulldozers a gynhyrchwyd gan David R Edwards o Datblygu - enwau'r caneuon oedd Llosga dy Llosgochrau (cân yn lambastio amherthansrwydd cerddoriaeth Geraint Griffiths a'i sort i'r Gymru cyfoes), Rigor Mortis (cân yn erbyn bwyta cig), U-Thant, Sbu-Thant (cân gwrth Caerdydd - "well gen i well diwedd y byd, na bod yn ffan i U-Thant lawr yn Caerdydd, Caerdydd diwedd y byd"), a Marshmallow Infesion (cân swreal am Marshmallows yn cymryd Aberystwyth drosto - peidiwch a gofyn!).

Fe gafwyd fersiwn o Rigor Mortis ei ryddhau ar EP Dyma'r Rysait ar label Anhrefn - cafodd y trac ei ail-gymysgu yn Stiwdio Ofn gyda Gorwel, Dave ac Esyllt.

Y peth ola wnaeth y band recordio oedd y gân Pryfaid i raglen Fideo Naw yn 1988/89.

Fe aeth Esyllt ymlaen i ffurfio Pop Negatif Wastad gyda Gareth Potter. Fe wnaeth Gwern, Douglas a Gwion Llwyd ffurfio band tecno o'r enw Mescalero. Ar ôl i Mescalero ddod i ben fe aeth Gwern a Gwion ymlaen i ffurfio Tokyu gyda Meilyr Tomos.

Aelodau

Douglas Jones - llais
Gwern ap Tudur - offerynnau
Esyllt Anwyl Wigley - offerynnau

Disgyddiaeth

Caset 4 trac 'Anoracs a Bulldozers' gan y Crisialau Plastig.
Trac ar EP 'Dyma'r Rysait' ar Recordiau Anhrefn.

Artistiaid Cysylltiedig

Cyfrannwr: Douglas Jones

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2005