Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Ap Ted a'r Apostolion

Grŵp | Arddull: Roc | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1998 -

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Band roc o ardal Dyffryn Nantlle, Gwynedd, yn perfformio caneuon gwreiddiol a clasuron o'r 70/80. Grwp gyda pump aelod profiadol, i gyd wedi bod yn rhan o grwpiau allweddol yn y gorffennol fel Maraca, Wenfflam, Dilyn y Dall, Trydan. Wedi perfformio yn gyson ers 1998, ar draws Cymru ac ymhellach (Dulyn, Llundain).

Fe gafodd y band doriad oddeutu 20 mis ar ôl chwarae yn gyson ar draws Cymru am gyfnod o 5 mlynedd. Cynhalwyd gig ail gyflwyno ar ôl Dolig 2004 yn Cofi Roc Caernarfon, a fu'n llwyddiannus dros ben, ac felly penderfynwyd y band i ddod yn ôl hefo aelodau newydd - Jonathan Davies fel prif leisydd a Kevin Thomas gitar flaen.

Cafodd sesiwn recordio ei ryddhau ym mis Medi 2005 yn cynnwys caneuon clasurol EH Dafis, a mae rhain i'w clywed ar y radio ar hyn o bryd (Radio Cymru C2, ChampionFM)

Aelodau

Jonathan Davies - prif lais, piano
Garym Jones - drymiau
Gareth Thomas - gitâr
Steven Green - gitâr fas
Kevin Thomas - gitâr flaen

cyn-aelodau:
Robin Eiddior - prif lais
Iolo Tudur Owen - gitâr, allweddellau

Disgyddiaeth

Pastorama (Albwm CD/caset, Recordiau Sain SCD2251, 2000)

Artistiaid Cysylltiedig

Cyfrannwr: Steven Green

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Hydref 2005