Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Dan Amor

Canwr | Iaith: Cymraeg

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Dan AmorMagwyd Dan Amor ym mhentref Penmachno, Dyffryn Conwy, ac mae'n dal i fyw yno hyd heddiw. Ymddengys bod cerddoriaeth yn rhedeg yn y teulu; enillodd ei Nain gadair Eisteddfod am ei chanu yn y tridegau.

Yn gyn brif ganwr gyda'r grŵp pop/roc Gabrielle 25, bydd gwrandawyr BBC Radio Cymru a Radio Wales yn gyfarwydd â chaneuon chwerwfelys, melodig Dan fel Yr Aifft yn yr Haul a Cantores yr Haf.

Mae hefyd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant fel artist unigol, gyda'i ddeunydd yn cael ei chwarae yn Siapan, Ewrop ac America. Chwaraeodd John Peel ddwy o'i ganeuon, a gwelwyd adolygiad positif o'i EP diwethaf yn y cylchgrawn cenedlaethol Record Collector.

Disgyddiaeth

Dychwelyd - (Recordiau Crai, CRAI CD101, 1/8/2005)

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Awst 2005