Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Tŷ Gwydr

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1988 - 1994

Gwefan MySpace: www.myspace.com/tygwydr

Gwybodaeth

TÅ· Gwydr yn Eisteddfod Cwm RhymniYmddangosodd Tŷ Gwydr yn ystod Eisteddfod Cwm Rhymni (1998), gyda'r sengl 'Yr unig ateb'. Aelodau'r band i ddechrau oedd yr artist Mark Lugg a'r actor Gareth Potter, nhw oedd y band cyntaf i ddod a 'rave' i Gymru. Roeddynt wedi bod yn weithgar gyda Traddodiad Ofnus (electro/jack house Cymreig) a Pop Negatif Wastad (band diwydiannol/electro Potter, yn nodedig am 'Valium', cover o gân gan Ffa Coffi Pawb).

Dilynwyd 'Yr unig ateb' gan albym ardderchog (ar dâp yn unig) o'r enw 'Effeithiol', oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Daddy Lowry, reggae/ragga MC o Gaerdydd, a Heather Jones, aelod o fand Bara Menyn sy'n cael ei ystyried fel y band pop Cymraeg cyntaf. Yn fuan ar ôl 'Effeithiol', fe ryddhawyd 'Reu EP'.

Yn fuan wedyn fe ddaeth 'Reu Mics' EP, gyda cyfraniadau o'r 3ydd aelod achlysurol David Lord, a oedd wedi gweithio gyda'r band o'r dechrau, gan gymryd rôl gyda proffil llai, efallai oherwydd nad oedd yn siaradwr Cymraeg. Roedd 1991 yn flwyddyn dda i'r band, gan roi perfformiadau gwahanol i unrhywbeth oedd cynulleidfa wedi'i weld o'r blaen (Fy ffefryn personol i oedd gig gyda Datblygu yn Eisteddfod yr Wyddgrug, lle roedd Gorky's Zygotic Mynci fod i chwarae ei gig proffil uchel cyntaf, ond mi fethwyd gwneud hynny oherwydd nad oedd gan unrhyw fand arall kit drymiau i fenthyg iddynt). Gan fy mod o Ogledd Cymru, mae'n bosib fod fy marn i wedi liwio, ond erbyn Awst 1992 roeddynt wedi cyrraedd ei uchafbwynt, a wnaethon ffarwelio a'r holl ffenomenon 'Reu' (oedd wedi dod yn slogan iddynt). Ar y 6ed o Awst 1992 cynhaliwyd 'Noson Claddu Reu'.

Reu!Ar ôl 'Noson Claddu Reu' ni gafwyd llawer o gyfraniad i'r SRG gan Tŷ Gwydr. Fe wnaethont ryddhau '292 - ymlaen at y filiwn', y sengl CD cyntaf yn y Gymraeg, oedd yn ofnadwy yn ogystal a thâp dosbarthiad cyfyngedig (bwtleg mewn ffordd) oedd yn cynnwys rhai traciau newydd, re-mixes, a DJ mix, oedd yn eitha da. Fe welodd Eisteddfod Glyn Nedd 1994 nhw'n chwarae o dan yr enw Reu-vival, lle wnaethon nhw arbrofi gyda'i swn yn rhagor, gan wneud cover o gân Geraint Jarman 'Rockers, Rockers, Reggae', yn ogystal a chwarae ffync offerynnol byw.

Ar ôl hyn, fe ddiflannwyd y band o'r sîn roc Gymreig, er ei bod dal yn weithgar gyda'r sîn yng Nghaerdydd, yn DJio a hyrwyddo nosweithiau, yn bennaf yng Nghlwb Ifor Bach dwi'n meddwl. Beth bynnag a ddigwyddodd, roedd Tŷ Gwydr yn arloeswyr go iawn, gan gynhyrchu cerddoriaeth sydd dal yn swnio'n ffres heddiw, bron ddegawd yn ddiweddarach. (Yr albym 'Effeithiol' a 'E.P. Reu' yw ei gweithiau cryfaf, a mae ei cynnyrch ar feinyl wedi cael ei ail-ryddhau gan AnkstMusik dwi'n credu. Yn bendant mi fyddant ar gael o Recordiau Cob ym Mangor).

Gogledd, De, Gwlad a ThreYn 2002 fe wnaeth y band ryddhau casgliad o'i gwaith i ddathlu 10 mlynedd ers y noson Claddu Reu, sef y CD Gogledd, De, Gwlad a Thre.

Aelodau

Gareth Potter
Mark Lugg
David Lord

Disgyddiaeth

Yr Unig Ateb - (12", ANKST 11)
Effeithiol - (Caset, ANKST 17)
Reu - (12", ANKST 19)
Reu (Mics) - (Caset/12", ANKST 24)
LL.LLvTG McDRE - (Caset/12", ANKST 25)
292 Ymlaen at y filliwn - (CD Sengl, ANKST 45)
Gogledd, De, Gwlad a Thre - (Dockrad CD004, 2002)

Artistiaid Cysylltiedig

Cyfrannwyr: Dyfrig Jones, Dafydd Tomos

Diweddarwyd ddiwethaf: 09 Hydref 2013