Curiad

Croeso i wefan Curiad - ffynhonnell o wybodaeth am gerddoriaeth Cymraeg. Ein bwriad yw darparu llwyfan annibynnol yn llawn gwybodaeth am y byd cerddoriaeth cyfoes yng Nghymru.

Mi rydych chi fel defnyddwyr yn rhan allweddol o hyn - er mwyn cyfrannu'r wybodaeth ddiweddaraf am fandiau, labeli, gigs a digwyddiadau.

Beth sy'n newydd?

27 Ionawr 2010 - i ddathlu 15 mlynedd ar y we, mae yna adran newydd ar gyfer fideos.

16 Ebrill 2007 - ail-ddechreuwyd yr orsaf radio arbrofol.

13 Tachwedd 2006 - ychwanegwyd nifer o luniau gwreiddiol o artistiaid, diolch i Gareth Higgins.

23 Mai 2006 - ychwanegwyd mapiau ar dudalennau y lleoliadau.

24 Mehefin 2005 - lansiwyd fersiwn cynnar o'r Gigfap unigryw.

21 Ebrill 2005 - mae'r adran newyddion nawr yn fyw hefyd.

18 Ebrill 2005 - lansiwyd y gronfa wybodaeth o artistiaid. Os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol neu gywiriadau, cysylltwch â ni.

6 Rhagfyr 2004 - mae'r adran gigs nawr yn cynnwys rhestr a gwybodaeth am leoliadau gigs.

25 Tachwedd 2004 - mae'r adran gigs ar agor.