Gwrando
Mae'n rhaid cael Flash i weld y chwaraewr yma.

Radio Curiad

Mae'r orsaf arbrofol yma'n darlledu cerddoriaeth Gymraeg rownd y cloc. I wrando ar yr orsaf, mi allwch chi ddefnyddio'r chwaraeydd syml ar y dde.

Cefndir

Daw'r rhestr chwarae o ffeiliau MP3 sydd wedi ei ryddhau ar y we gan wahanol artistiaid. Ar hyn o bryd mi all arddull yr orsaf newid yn sydyn iawn rhwng caneuon. Mae posibilrwydd yn y dyfodol o greu ffrydiau gwahanol i gerddoriaeth pop/roc, electronig a thraddodiadol.

Os hoffech chi gyfrannu caneuon i'w rhoi ar yr orsaf (a mai chi yw'r artist sydd wedi recordio'r trac) yna cysylltwch â ni.

Gwrando mewn ffordd arall

Os ydych chi eisiau gwrando heb fynd i'r dudalen yma, fe fydd angen i chi gael meddalwedd addas ar gyfer chwarae ffrwd mp3 (gweler isod). Yna defnyddiwch y ddolen yma i lansio'r ffrwd.

Dyma restr o feddalwedd sydd wedi ei ddefnyddio'n llwyddiannus i wrando ar y ffrwd.