Lleoliadau - Manylion

Gardd Cymru

Cyfeiriad: Llanarthne, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA32 8HG

Ffôn: 01558 668 768

Ffacs: 01558 668933

Ebost:

Gwefan: www.gardenofwales.org.uk/cymraeg

Gwybodaeth

TÅ· Gwydr y Gerddi BotangeCafodd Gardd Fotaneg Genedlaethol hardd Cymru, ger Llanarthne yn sir Gaerfyrddin, ei gweld fel llwyddiant mawr gan ymwelwyr o bell ac agos sydd wedi mwynhau popeth sydd gan y 568 o erwau o barcdir i'w gynnig; ei hadeiladau hanesyddol a thra modern, ei harddangosfeydd garddwriaethol a'i dolydd blodau, ei llynnoedd a'i llwybrau, ei siopau a'i thai bwyta.

Prif eitem yr Ardd yw'r TÅ· Gwydr Mawr a gafodd ei ddylunio gan y penseiri byd-enwog Norman Foster a'i Bartneriaid. Y tu mewn i'r crymdo gwydr rhyfeddol mae tirlun Canoldiraidd sydd wedi ei ddominyddu gan geunant sy'n chwe medr o ddyfnder. Mae nentydd a rhaeadrau'n torri terasau o graig ac wynebau serth. Mae Llyn yn cyflenwi cynefin llaith wrth droed y ceunant. Gall ymwelwyr gael profiad o ganlyniadau tân gwylltir Awstralaidd, gallant oedi mewn llwyn olewydd Sbaeneg neu grwydro drwy gasgliadau o fiwsias o Chile.