Lleoliadau - Manylion

Pafiliwn Bont

Cyfeiriad: Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig, Ceredigion SY25 6BB

Ffôn: 01974 831 635

Ebost:

Gwefan: www.pafiliwnbont.co.uk

Gwybodaeth

Pafiliwn BontAgorwyd Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn 1967 gan ddyn busnes oedd wedi ei fagu ar fferm Pantyfedwen. Ei fwriad oedd creu canolfan gymdeithasol i'w bentref enedigol. Ers hynny mae Pafiliwn 'Bont' wedi tyfu i fod yn ganolfan enwog ar gyfer cyngherddau, eisteddfodau a digwyddiadau diwylliannol.

Erbyn y flwyddyn 2000 fe roedd yr adeilad wedi colli eu boblogrwydd fel canolfan a roedd dirywiad yn safon yr adeilad. Yn fuan wedi cau yr adeilad fe'i ddifrodwyd gan dân.

Fe aeth criw o wirfoddolwyr ati yn y blynyddoedd ers hynny i gasglu arian tuag at ail-ddatblygiad y Pafiliwn. Erbyn 2005 roedd y nod wedi ei gyrraedd gyda bron i £1.7m wedi'i godi. Fe ddechreuwyd y gwaith yn nechrau 2005 a fe agorwyd y pafiliwn ym mis Mai 2006 - fe ddychwelodd Eisteddfod Pantyfedwen fel y digwyddiad cynta i cael ei gynnal yn yr adeilad newydd.