♥ curiad
Lleoliadau - Manylion
Tŷ Tawe
Cyfeiriad: 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW
Ffôn: 01792 460 906
Gwefan: menterabertawe.org/cymraeg/tytawe.php
Gwybodaeth
Lle poblogaidd yw Canolfan Gymraeg Ty Tawe sy’n agos at ganol y ddinas. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau rheolaidd yno, gan gynnwys dawnsfeydd a discos, Côr Ieuenctid, perfformiadau byw gan grwpiau pop, ymrysonau beirdd, darlithiau, nosweithiau cymdeithasol a dosbarthiadau Cymraeg.
Yn rhan o'r ganolfan hefyd y mae dau far, a Siop Ty Tawe, sy’n gwerthu’r diweddaraf o blith cryno ddisgiau, llyfrau, posteri, fideos a thrugareddau Cymraeg eraill. Gwariwyd £70,000 yn ailwampio’r ganolfan yn ddiweddar.
Fe sefydlwyd Ty Tawe fel cymdeithas yn ystod Eisteddfod Abertawe 1982 gyda’r bwriad o brynu canolfan i hybu defnydd o’r iaith ymysg yr ifanc a dysgu hanes Cymru a’i Hiaith i bawb a feddai ddiddordeb yn y wlad a’i diwylliant.