♥ curiad
Lleoliadau - Manylion
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyfeiriad: Rhiw Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU
Ffôn: 01970 632 801
Llinell Docynnau: 01970 632 548
Ebost:
Gwefan: www.llgc.org.uk/drwm
Yn dal: 100
Gwybodaeth
Mewn ymdrech i wneud ei chasgliadau yn fwy hygyrch i'w darllenwyr ac ymwelwyr, mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi cael ychwanegiad gwerthfawr a chyffrous i'w chyfleusterau, sef awditoriwm amlgyfrygol o'r enw Drwm.
Bron i ganrif ers sefydlu'r Llyfrgell, mae'r Drwm (a gafodd ei enw yn sgîl ei debygrwydd i siâp drwm) yn ychwanegiad hynod o fodern i'r Llyfrgell. Mae'r cyferbyniad hwn rhwng yr hen a'r newydd yn amlwg gan fod y Drwm wedi ei leoli o fewn waliau neo-glasurol adeilad gwreiddiol y Llyfrgell.
Awditoriwm yn y Llyfrgell Genedlaethol sy'n lle delfrydol ar gyfer ffilmiau, darlithoedd, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill.