Porthiant RSS
Beth yw'r botwm RSS?
Mae RSS yn sefyll am Really Simple Syndication (neu Rhannu Safle Syml) a mae'n bosib ei defnyddio i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf o'r wefan heb orfod ymweld a hi'n uniongyrchol.
Mi fydd adrannau arbennig o'r wefan yn cynnig porthiant RSS (e.e. y gigs sydd yn digwydd heddiw ac yfory). Mi fydd y wybodaeth yn cael ei ddiweddaru bob awr.
Sut ydw i'n gwneud defnydd o hyn?
Er mwyn darllen y wybodaeth yma, rhaid defnyddio darllenydd RSS a tanysgrifio i'r 'sianel' priodol. Mae darllenydd RSS ar gael mewn rhai porwyr (e.e. Firefox) neu gellir defnyddio meddalwedd RSS arbennig - mae gan Google restr o rhain - rydym yn argymell FeedReader ar gyfer Windows, NetNewsWire Lite ar gyfer Mac OS X a Straw neu Liferea ar gyfer Linux.
Mae gan pob ddarllenydd ei ffordd ei hun o danysgrifio. Y ffordd orau yw i glicio ar y botwm RSS er mwyn dangos y ffeil fformat XML. Mae'n bosib fe fydd hwn yn cael ei 'ddal' gan ddarllenydd RSS. Os nad yw, fe allwch gopio'r cyfeiriad o'r porwr ac yna ei gopïo i fewn i'r darllennydd.
Os ydych yn defnyddio Firefox, mi fydd yna icon yn ymddangos yng nghornel gwaelod-dde y porwr yn dangos ei fod yn bosib tanysgrifio (enw Firefox am hyn yw 'Live Bookmarks' am fod y wybodaeth yn ymddangos fel talen-nodau sydd yn diweddaru yn otomatig).
Dewis arall ydi defnyddio gwasanaeth tebyg i Bloglines sydd yn gadael i chi ddarllen nifer o wahanol borthiannau XML a'i darllen ar y we.
Beth sydd ar gael?
Dyma restr o'r wybodaeth sydd ar gael o Curiad drwy RSS ar hyn o bryd.