Rhestr Artistiaid - Manylion
Anad
Grŵp | Arddull: Roc | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1998 -
Gwybodaeth
Mae'r band yma o Gricieth ac yn cyfansoddi caneuon eu hunain, ac hefyd yn chwarae amryw o ganeuon poblogaidd eraill.
Maent wedi chwarae gyda nifer o fandiau enwog Cymraeg, yn cynnwys Big Leaves, Anweledig, Maharishi, Celt and Caban. Maent hefyd wedi ennill gwobrau yn yr Eisteddfod yr Urdd 2000, yn cynnwys y gân roc orau, a'r gan cyfoes orau. Cafodd y gystadleuaeth ei feirniadu gan cyflwynydd 4-trac Ian Cottrell. Camp arall yn 2000 oedd cyrraedd y pedwar olaf yng nghystadleuaeth bandiau ifanc Uned 5.
Amryw o ganeuon roc mae'r grŵp yn chwarae, gyda rhai tawelach. Tristan a David sydd yn cyfansoddi y caneuon, ond mae'r grŵp i gyd yn cyfrannu at y fersiwn gorffenedig.
Aelodau
Tristan Williams - llais
Dyfan Dwyfor - drymiau
David Jenkins - gitâr
Andrew McKenzy - bas
Disgyddiaeth
17 - (demo tua 2001)
Radio Silence (EP, tua 2003)
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2005