♥ curiad
Rhestr Artistiaid - Manylion
Datblygu
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1982 - 1995
Gwefan: www.datblygu.com
Gwybodaeth
Un o fandiau mwya arloesol Cymru, a oedd yn cyfuno cerddoriaeth electronig gyda sylwadau caled, di-gyfaddawd am Gymru cyfoes. David R Edwards oedd yn sgrifennu'r geiriau (neu farddoniaeth) ac yn canu'r caneuon. Mae Dave wedi trafod nifer o bynciau cyfoes yn eu ganeuon fel cyffuriau, trais a phroblemau rhywiol.
Yn ogystal a chael peth sylw o rai mannau yn y cyfryngau Cymraeg, fe gafodd y grŵp sesiynau gan John Peel ar Radio 1 a daeth sylw cynnyddol o'r wasg Brydeinig. Mae cyfraniad y band yn un aruthrol yn y casgliad o ganeuon a cherddoriaeth boblogaidd maent wedi gadael i ni.
Aelodau
David R Edwards - llais
Pat Morgan - bas, llais, allweddellau
T. Wyn Davies - allweddellau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2005