Rhestr Artistiaid - Manylion
Elfyn Presli a'r Massey Fergusons
Grŵp | Arddull: Pync | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1985 - 1987
Gwybodaeth
Cyn sefydlu Elfyn Presli gyda Bern a Shutes, roedd Dic Ben a Geth yn aelodau o Yr Anrhefn, (Dic sydd yn chwarae y drymiau ar eu sengl cyntaf, honno ar feinyl gwyrdd!!!). Roedd eu perfformiadau byw yn fwy na jyst gigs mi oedda nhw yn wefreiddiol pob amser. Byth yn gwybod beth i ddisgwyl ac os y bysa nhw hyd yn oed yn troi i fyny! Yn erbyn yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn y gorffennol doedd r'un ohonynt yn "junkies" a tydi'r 'run ohonynt wedi marw.
Fe wnaethon nhw recordio sesiwn i Radio Cymru yn fyw o westy'r Marine yn Aberystwyth. Trefnwyd y gig gan Rhys Mwyn dan y teitl "Mae fy nhethau yn ffrwydro gyda mwynhad!!!". Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau ar y noson wedi bod neu ar Recordiau Anrhefn - Elfyn Presli, Yr Anrhefn, Datblygu, Y Cyrff, Tynal Tywyll a mwy.
Yn ogystal a gweithio fel recordydd sain mae Dic Ben yn dal i wneud cerdd pob hyn a hyn, yn y Psycho VII gyda Rhodri Puw, gynt o Ffa Coffi Pawb a'r Gorky's. Mae si hefyd ar le ei fod yn cyd weithio gyda Dafydd Ieuan (SFA) a Rhys Ifans! ar record hir. Maent yn mynd o dan yr enw Y neu The Peth.
Roedd Bern yn arfer byw yn ardal Porthmadog ac yn hoff o eistedd yn ffenest y Ship and Cas' hefo'i beint. Yn drist iawn bu farw Bern (Bernard Davey) ar Ebrill 25ain 2010 yn 49 mlwydd oed. Mae Shutes yn rhedeg canolfan arddio yn Nhremadog. Mae Geth yn byw yn Rwsia ers bron i ugain mlynedd ac yn gweithio mewn addysg. Mae Dave Williams yn arddwr yn ardal Porthmadog.
Y tro diwethaf i'r pump fod mewn stafell gyda'i gilydd oedd yn eu gig olaf fel Elfyn Presli yn 1987, yn Aberystwyth. Hon oedd eu gig orau yn ôl pob son. Mynd allan gyda bang!
Aelodau
Dic Ben - drymiau
Bern - llais
Geth - gitâr
Shutes - gitâr fas
Dave Williams - sax (ar rhai sesiynau byw)
Disgyddiaeth
Hangofyr - trac ar record amlgyfrannog Cam o'r Tywyllwch (Recordiau Anrhefn, 1985)
Parti Bili Tomos a Jackbwts Maggie Thatcher - traciau ar record amlgyfrannog Gadael yr Ugeinfed Ganrif (Recordiau Anrhefn, 1986)
Jackbwts Maggie Thatcher - trac ar record amlgyfrannog The First Cuts Are The Deepest EP (Words of Warning Records, 1987)
Artistiaid Cysylltiedig
Cyfrannwr: R Roberts
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Tachwedd 2010