Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Ensyniadau

Grŵp | Iaith: Cymraeg

Gwybodaeth

Ffurfiodd y band yma am fod pawb yn Ysgol Dyffryn Teifi. Bellach mae Rhun, Gavin a Dewi (allegedly - ma neb byth yn gweld e) yn chweched ucha Dyffryn Teifi tra bod Gareth wedi symud i Ysgol Aberteifi.

Mae'r band o hyd gyda'u gilydd a dyw nhw ddim yn hoffi neb arall*. Mewn gigs ma nhw'n ishte ar ben eu hun yn slaggo pawb arall off. (* - i fod yn deg, ma neb arall yn hoffi nhw really)

Wedi rhyddhau tâp ar ben eu hun yn 1993. Mae'r tâp yn cynnwys 6 cân - Sut Dyma, Flintstones, Pilipala, Problemau, L.S.David. Wedi chwarae loads a loads o gigs, nhw oedd yr unig band i chwarae 2 gig yn 'Steddfod '94.

Aelodau

Rhun Llwyd - llais / bas
Gareth Newbold Jones - llais / bas
Dewi Siôn Morris - gitâr
Gavin Richardson - dryms

cyn-aelodau:
Jacob Rainsbury - gitâr
Siân Jones - gitâr
Llinos Harries - canu

Cyfrannwr: Esyllt Williams

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2004