Rhestr Artistiaid - Manylion
Geraint Jarman
Canwr | Arddull: Ska,Roc, Reggae | Iaith: Cymraeg | Ganwyd: 1950
Gwybodaeth
Mae gyrfa gerddorol Geraint Jarman yn dechrau pan oedd yn ddeunaw oed pan ffurfiodd y grwp Bara Menyn yn 1969 gyda Meic Stevens a Heather Jones. Ers hynny mae Jarman wedi dod yn un o'r artistiaid mwya dylanwadol yn yr SRG. Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd roedd yn barddoni a mi ddaeth a'r profiad hynny o drin geiriau i gerddoriaeth cyfoes y 70au.
Gyda'i fand 'Y Cynganeddwyr' fe gyhoeddwyd chwe albwm yn y 70au a'r 80au cynnar. Fe roedd Jarman yn gweithio fel actor yn ystod y cyfnod yma hefyd a roedd ganddo ddiddordeb gynyddol yn y byd ffilm a teledu. Fe wnaeth ei dri albwm nesaf - Macsen, Enka a Cerddorfa Wag - ddeillio o'i waith mewn ffilmiau a gomisiynwyd gan S4C yn yr 80au.
Yn 1998 fe aeth Jarman ati i ffurfio y cwmni cynhyrchu teledu 'Criw Byw'. Fe gynhyrchodd y cwmni yma nifer fawr o fideos roc a phop ar gyfer grwpiau Cymraeg y cyfnod, gan roi graen broffesiynol ar y sîn oedd, a sydd dal i fod ar y cyfan, yn un amatur.
Artistiaid Cysylltiedig
Diweddarwyd ddiwethaf: 03 Tachwedd 2006