♥ curiad
Rhestr Artistiaid - Manylion
Huw Pritchard
Unigolyn | Iaith: Cymraeg
Gwefan MySpace: www.myspace.com/ybobs
Gwybodaeth
Yn niwedd yr 80au a dechrau y 90au roedd Huw 'Bobs' Pritchard yn cyfansoddi caneuon difyr a deifiol o dan yr enw 'Byd Afiach'. Fe roedd hefyd yn gyflwynydd radio a theledu gyda sioe gerddoriaeth wythnosol ar Radio Cymru a sioe fideo ar S4C yn y 90au cynnar.
Yn 1995 fe ryddhawyd casgliad o'i ganeuon ar y CD yn cynnwys goreuon Bobs o 1986 i 1995. Fe roedd y caneuon yn amrywio o ganeuon acwstig syml i ganeuon pop ac arbrofol. Y llinyn cyson yn y gwaith oedd golwg ddychanol ar y byd a'i broblemau, yn wawdlwyd weithiau ond bob amser yn ddifyr.
Disgyddiaeth
Born again Bobs - (Label Byd Bobs 002)
Not bad for a Baldi Bobs - (Label Byd Bobs 003)
Byd Afiach - (Label Byd Bobs 006)
Yn ei fyd bach ei hun - (1995)
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Mehefin 2007